SL(6)694 – Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Sefydlodd Deddf Caffael 2023 (“Deddf 2023”) bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chaffael cyhoeddus Cymru.
Mae Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025 (y “Rheoliadau”) yn diweddaru trothwyon ariannol penodol yn Atodlen 1 i Ddeddf 2023 (“Atodlen 1”), sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau.
Mae’r trothwyon hynny yn pennu uwchlaw pa werth y mae contractau o wahanol fathau i gael eu rheoleiddio gan y gyfundrefn caffael cyhoeddus o sylwedd.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd “y diwygiadau hyn yn dilyn adolygiad o'r trothwyon perthnasol i sicrhau eu bod yn parhau i gyfateb i'r trothwyon perthnasol a osodir yng Nghytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael Llywodraeth”. Mae'n nodi ymhellach y bydd hyn yn sicrhau “bod y DU yn parhau i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau rhyngwladol” ac y bydd yn “rhoi sicrwydd cyfreithiol i Awdurdodau Contractio Cymru, yn sicrhau cysondeb ar draws awdurdodaethau'r DU, ac yn lleihau'r risg o anghydfodau masnach”.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Rydym yn nodi y daeth y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2026.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn fod y diwygiadau a wnaed i Atodlen 1 gan y Rheoliadau hyn wedi dod i rym bum munud yn ddiweddarach na diwygiadau ar wahân a wnaed i'r un ddarpariaeth gan reoliadau Senedd y DU.
Er ein bod yn fodlon bod Atodlen 1 fel y'i diwygiwyd yn gyfreithiol gadarn, rydym yn pryderu ynghylch anhygyrchedd a darllenadwyedd y gyfraith fel y'i cyhoeddwyd o ganlyniad i hyn.
Isod mae sgrinluniau o Atodlen 1 fel y'i cyrchwyd ar 13 Ionawr 2026 (12 diwrnod ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym) o Legislation.gov a dwy wefan ddeddfwriaeth ar wahân sy'n seiliedig ar danysgrifiadau. Nodwn fod y testun cyn y tabl yn amrywio rhwng y tair fersiwn, yn ogystal â chynnwys y tabl ei hun.
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd y Rheoliadau hyn yn “rhoi sicrwydd cyfreithiol i Awdurdodau Contractio Cymru". Felly, rydym yn ystyried bod yr amrywiadau hyn yn hynod annymunol, yn ddryslyd ac yn ansicr i ddefnyddwyr y ddeddfwriaeth (gan gynnwys defnyddwyr proffesiynol).



Nodwn fod y Cwnsler Cyffredinol o dan ddyletswydd barhaus i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adran 1 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ei bod yn cael ei chyhoeddi ar ffurf gyfredol (gan gynnwys dangos a oes deddfiadau mewn grym ac ymgorffori unrhyw ddiwygiadau iddynt), sicrhau ei bod yn hawdd ei deall a'i bod yn sicr o ran ei heffaith.
Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa un o'r tri uchod sy'n adlewyrchu'r gyfraith sydd mewn grym yn gywir ar y dyddiad y mae'n ymateb.
Rydym hefyd yn gofyn am ymateb mewn perthynas â'n pryderon ehangach ynghylch hygyrchedd deddfwriaeth wedi’i diwygio.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r ail bwynt rhinweddau yn unig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Ionawr 2026